Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 13 Mawrth 2017
Amser: 14.00 -
16.42
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3914
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Rhianon Passmore AC Lee Waters AC |
Tystion: |
John Howells, Llywodraeth Cymru Shan Morgan, Llywodraeth Cymru David Richards, Llywodraeth Cymru Ian Williams, Llywodraeth Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Matthew Mortlock Nick Selwyn Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod PDF (431KB) Gweld fel HTML (261KB)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AC. Ni chafwyd dirprwy ar ei ran.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn gychwynnol gyda Shan Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol newydd yn Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd yr Ysgrifennydd Parhaol i roi sylw i'r heriau a fydd yn digwydd yn sgil digideiddio a bydd yn cyflwyno ei sylwadau i'r pwyllgor.
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan John Howells, Cyfarwyddwr Tai, ac Ian Williams, Dirprwy Gyfarwyddwr (Datblygu Sector), Llywodraeth Cymru, fel rhan o'i ymchwiliad i drefn reoleiddio Cymdeithasau Tai.
5.1 Derbyniwyd y cynnig a chafodd ei ymestyn i gwmpasu eitem 1 ar gyfer y cyfarfod ar 28 Mawrth 2017.
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
7.2 Awgrymwyd gwneud ychydig o fân newidiadau a bydd fersiwn ddiwygiedig yn cael ei hanfon drwy e-bost at yr Aelodau.
8.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer yr haf a chytunodd arni.